ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Yr haf yw’r adeg berffaith i gymryd seibiant o’r patrwm corfforaethol a mynd y tu allan i feithrin eich tîm. Os yw eich cwmni yng Nghaerdydd, dyna lwc i chi – mae’r ddinas a’r ardaloedd o’i hamgylch yn llawn gwahanol anturiaethau y gall eich staff eu gwneud wrth gydweithio ac agosáu.

Yma yn DGRhC, gallwn gynnig ystod o weithgareddau awyr agored sy’n rhoi hwb i’r adrenalin. Dewiswch rhwng mentro ar ein cwrs yng nghalon Bae Caerdydd neu fynd allan i gyrion y brifddinas am ddiwrnod cyffrous yn cerdded ceunentydd.

Dyma i chi grynodeb o’n gweithgareddau adeiladu tîm mwyaf poblogaidd, sy’n cyfuno diwrnod o antur â gwaith tîm gwerthfawr:

Rafftio Dwr Gwyn

Mae ein cwrs Rafftio Dŵr Gwyn yn weithgaredd cyffrous, sy’n annog aelodau ’ch tîm i gyfathrebu er mwyn hwylio’r dyfroedd gwyllt yn llwyddiannus. O £25 y pen yn unig a lle i chwe pherson mewn rafft, gallwch addasu’r antur wyllt hon at eich anghenion. Rydym hyd yn oed yn cynnig mynediad i’n hystafell ddarlithio gwlyb, sydd mewn safle cyfleus y drws nesaf i’r cwrs felly gallwch gynnal sesiwn grynhoi am y rafftio heb hyd yn oed orfod newid o’ch gwisg ddŵr.

Canŵio a Chaiacio

Nid rafftio yn unig yw’r anturiaethau meithrin tîm  Mae’r cyfleusterau ar safle DGRHC hefyd yn cynnig ystod o chwaraeon padlo gyda phwll dŵr llonydd a chwrs dŵr gwyn safon Olympaidd! Cofrestrwch eich tîm ar gyfer sesiwn Ganŵio neu Gaiacio a gwyliwch wrth iddynt fagu hyder yn y dŵr gyda chymorth ein harweinwyr hwyliog a chyfeillgar!

Cerdded Ceunentydd

Os ydych chi eisiau mynd â’ch tîm o’r ddinas ac i grombil byd natur, rydym hefyd yn cynnig profiad cerdded ceunentydd yn ne Cymru. Yn ystod yr antur hon yn hynodrwydd Dyffryn Nedd, rhown eich tîm ar waith yn sgramblo hyd afonydd a nentydd. Byddwch yn cychwyn yn araf deg trwy ddysgu’r holl dechnegau hanfodol ac yna erbyn diwedd y daith gerdded, bydd eich staff yn neidio i’r pyllau plymio ac yn mynd i’r ceunentydd serth.

Mae cerdded ceunentydd yn gorfforol heriol ac yn gyffrous; mae’n berffaith ar gyfer dyddiau meithrin tîm. Yn dibynnu ar faint eich grŵp, mae’n bosibl y bydd modd i ni gynnig trafnidiaeth o’n pencadlys ym Mae Caerdydd. Cysylltwch â’n tîm i drefnu.

 

Os nad yw chwaraeon dŵr yn apelio atoch chi a’ch tîm, mae Caerdydd hefyd yn cynnig digon o anturiaethau ar dir cadarn. Beth am roi tro ar...

Ras rwystrau ‘Knockout’

Mae hwn yn gwrs rhwystr sy’n cynnwys offer gwynt enfawr, sleidiau llithrig a thunelli o ewyn, bydd y pecyn meithrin tîm “It’s a Knockout” yn rhoi eich tîm mewn gwisgoedd gwirion ac yn gwneud iddynt gystadlu mewn rasys cyfnewid gwallgof. Wedi ei saernïo gan arbenigwyr profiadau, GOTO Events, mae’r pecyn Knockout yn cynnwys pedwar i wyth gweithgaredd a fydd wedi eu haddasu’n benodol ar gyfer eich tîm, a gaiff eu cynnal gan y cyflwynydd/dyfarnwr a daw’r profiad i ben â seremoni cyflwyno medalau.  

Helfa drysor

Mae’r helfa drysor unigryw hon, sydd wedi ei threfnu gan Wildgoose, yn cyflwyno cyfres o gwestiynau a thasgau i’ch tîm  y mae angen iddynt gydweithio i’w datrys, yn ogystal â digonedd o heriau ffotograffiaeth a fideo creadigol a rydd gyfle i ochr greadigol pawb ddisgleirio. Mae’r helfa drysor yn gystadleuol ac yn diddanu, mae’n weithgaredd meithrin tîm corfforaethol gwych a fydd yn trochi eich cyflogeion yng nghanol prysurdeb y ddinas neu yn ardal ddeniadol y Bae.

Y profiad goroesi Bear Grylls eithaf

Bydd y rhaglen hon, wedi ei hysbrydoli gan anturiaethau eithafol Bear Grylls, sy’n berffaith ar gyfer y rhai sydd wrth eu boddau yn y gwyllt, yn cynnig y profiad closio ynghyd perffaith i’ch tîm. Unwaith eto, gallwch bersonoli’r diwrnod yn ôl gofynion eich staff a gall fod yn rhan o ystod o weithgareddau goroesi megis rhaffau uchel, achub yn y gwyllt a mynd allan i’r wlad o’n cwmpas.

 

Gweithgareddau Meithrin Tîm CDRHC

P’un ai dathlu gwaith caled eich staff, pen-blwydd cwmni neu’n trefnu diwrnod i ffwrdd i gael pawb i gydweithio, mae ystod o weithgareddau cyffrous gennym sy’n berffaith i’r achlysur. Mae ein cyrsiau wedi eu lleoli yn ddelfrydol yng nghanol Bae Caerdydd, ac mae opsiynau trafnidiaeth ar gael ar gyfer gweithgareddau oddi ar y safle. Wedi i’ch tîm gwblhau’r heriau, gallwch fynd am damaid ar y safle 
ym mar a theras Caffi Oriel.

Dilynwch y dolenni uchod neu cysylltwch â ni i weld mwy am ein pecynnau a’n gostyngiadau meithrin timau.